#

Deiseb P-05-733: Dim camau pellach o gwbl mewn perthynas â Pharthau Perygl Nitradau yng Nghymru
Y Pwyllgor Deisebau | 17 Ionawr 2017
 Petitions Committee | 17 January 2017
 
 Petitions Committee | 29 June 2016
 

 

 

 

 


Research Briefing:

Rhif y ddeiseb: P-05-733

Teitl y ddeiseb: Dim camau pellach o gwbl mewn perthynas â Pharthau Perygl Nitradau yng Nghymru

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â chymryd camau pellach o gwbl mewn perthynas â Pharthau Perygl Nitradau yng Nghymru. Byddai cyflwyno'r gyfarwyddeb hon yn rhoi pwysau enfawr ar ddiwydiant ffermio llaeth sydd eisoes ar ei gliniau, ynghyd â'r cymunedau gwledig ehangach. Ni yw asgwrn cefn economi Cymru. Dim Ffermwyr, Dim Bwyd.

Y cefndir

Yn unol â Chyfarwyddeb Nitradau yr UE, mae'n ofynnol i Aelod-wladwriaethau nodi a dynodi Parthau Perygl Nitradau, sef ardaloedd a ddynodir fel rhai mewn perygl oherwydd llygredd nitradau amaethyddol. Yng Nghymru ar hyn o bryd, dynodir Parthau Perygl Nitradau gan Reoliad 7 o'r Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013, a ddaeth i rym ar 25 Hydref 2013 i roi'r Gyfarwyddeb ar waith.

Mae llygredd dŵr gwasgaredig yn digwydd pan fo llygryddion megis nitradau a ffosffadau yn cael eu cario i gyrff dŵr gan ddŵr glaw sy'n deillio o diroedd trefol a gwledig, a hynny fel arfer o sawl gwahanol ffynhonnell, gan gronni o ganlyniad. Mae ewtroffeiddio yn un o brif ganlyniadau llygredd nitradau. Golyga hyn fod cynnydd mewn nitradau neu ffosffadau yn y dŵr sy’n annog twf algâu ac sy’n ffurfio blodau ar arwyneb y dŵr. Mae hyn yn rhwystro golau'r haul rhag cyrraedd planhigion dŵr eraill, sy'n marw o ganlyniad. Mae bacteria yn torri’r planhigion marw, ac yn defnyddio’r ocsigen yn y dŵr, nes y gall y grynofa ddŵr droi'n ddifywyd. Gall llygredd nitradau effeithio ar ecoleg llynnoedd, afonydd a dyfroedd arfordirol, ansawdd dŵr daear ynghyd â chost cyflenwadau dŵr.

Mae Rhaglen Weithredu o 'Arferion Amaethyddol Da' yn berthnasol i Barthau Perygl Nitradau dynodedig er mwyn ceisio lleihau llygredd nitradau, lle mae'n rhaid i'r tirfeddiannwr yr effeithir arno ddilyn y camau statudol. Mae camau Rhaglen Weithredu’r Parthau Perygl Nitradau yn cynnwys:

Ar ôl dynodi ardaloedd penodol o dir yn Barthau Perygl Nitradau, dim ond tirfeddianwyr yn yr ardaloedd hynny sy’n gorfod rhoi camau’r Rhaglen Weithredu ar waith. Y safonau sylfaenol cenedlaethol eraill yn unig sy'n rhaid i dirfeddianwyr mewn ardaloedd eraill ddarostwng iddynt. Ar hyn o bryd, rhaid i tua 750 o ffermydd yn destun rheolaethau llygredd, yn unol â'r Rhaglen Weithredu yng Nghymru.

Yn unol â'r Rheoliadau, mae'n ofynnol bod Parthau Perygl Nitradau dynodedig yn cael eu hadolygu bob pedair blynedd o leiaf. Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n adolygu'r Parthau Perygl Nitradau dynodedig, gan wneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch pa ardaloedd y dylid eu dynodi, ynghyd â chynghori ynghylch unrhyw welliannau i'r camau yn y Rhaglen Weithredu. Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r argymhellion y maent yn bwriadu eu derbyn, gyda gwelliannau neu beidio, gan anfon hysbysiad o'r argymhellion hynny at unrhyw un sy'n perchnogi neu feddiannu tir perthnasol.

Gall cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Nitradau greu costau i ffermwyr mewn Parthau Perygl Nitradau, er enghraifft cost buddsoddi mewn cyfleusterau storio slyri. Fodd bynnag, mae rhywfaint o gymorth ar gael i ffermwyr ar hyn o bryd. Yn unol â'r Rhaglen Datblygu Gwledig i Gymru (2014-2020), gall ffermwyr cymwys gael cyllid er mwyn cynllunio ar gyfer rheoli nitradau. Mae cymorth ariannol ar gael hefyd drwy Gynllun Grant Cynhyrchu Cynaliadwy’r Cynllun Datblygu Gwledig, i wella adnoddau ac effeithlonrwydd busnes.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn dilyn yr adolygiad o Barthau Perygl Nitradau yn 2012, dynodwyd bod 2.4 y cant o dir Cymru yn Barthau o'r fath. Yn y cyfnod adolygu diweddaraf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi ardaloedd eraill a allai fod yn Barthau Perygl Nitradau, a fyddai'n cynyddu nifer y Parthau dynodedig i gynnwys 8 y cant o dir Cymru. Byddai hyn yn cynnwys dynodiad sylweddol o dir newydd yn Sir Benfro a dynodiadau newydd llai o faint ar Ynys Môn ac yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r mapiau ar wefan Llywodraeth Cymru yn dangos y Parthau Perygl Nitradau arfaethedig yng Nghymru â manylion i lawr i lefel y cae.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Barthau Perygl Nitradau yng Nghymru. Noda'r ymgynghoriad y bydd canlyniad yr adolygiad o Barthau Perygl Nitradau, ynghyd â'r ymgynghoriad ei hun, yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwneud unrhyw newidiadau priodol i'r Parthau dynodedig a/neu'r camau yn Rhaglen Weithredu'r Parthau Perygl Nitradau. Dull arall a gynigir yn yr ymgynghoriad yw i roi'r Rhaglen Weithredu ar waith ledled Cymru, gan ei gwneud yn ofynnol i'r holl dirfeddianwyr gydymffurfio, yn hytrach na chael Parthau Perygl Nitradau sydd wedi'u targedu. Mae'r ymgynghoriad yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Rheoliadau newydd yn 2017 yn dilyn canfyddiadau'r adolygiad a'r ymgynghoriad.

Ymatebion rhanddeiliaid

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi annog ei aelodau i ymateb i’r ymgynghoriad ar Barthau Perygl Nitradau gan rybuddio y bydd nifer o'r cynigion a gyflwynwyd ‘yn effeithio’n ddifrifol ar ffermwyr yng Nghymru':

The FUW remains resolutely against the option to apply the action programme throughout the whole of Wales as this would require all landowners to comply with the NVZ action programme measures. There is a distinct lack of evidence for a whole territory approach and the difficulties and costs associated with regulatory compliance for farms whose land does not drain into nitrate polluted waters, makes this option both unwarranted and unreasonably excessive.

Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru hefyd yn 'wrthwynebus iawn i'r dynodiadau arfaethedig'. Dywedodd Stephen James, Llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru:

NFU Cymru remains wholly unconvinced on the basis of evidence presented by Natural Resources Wales that further NVZ designations are necessary in Wales.

Our own NFU Cymru NVZ Survey showed that around one in eight (13%) of farmers would consider leaving the industry if the NVZ proposals are introduced.  Nearly three quarters (73%) of farmers surveyed did not have sufficient slurry storage on their farm to meet the proposed NVZ requirements and it would cost, on average, nearly £80,000 for Welsh farmers to upgrade their slurry storage facilities to achieve NVZ slurry storage compliance. 

Mae Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr hefyd yn credu nad yw'r cyllid sydd ar gael gan y Rhaglen Datblygu Gwledig yn ddigonol i dalu'r costau hyn, ac y byddai ffermwyr yn cael eu heffeithio'n sylweddol yn ariannol.

Dadleua sefydliadau amgylcheddol fod angen rhagor o ddynodiadau er mwyn atal mwy o lygredd mewn afonydd, a llai o fioamrywiaeth. Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru yn argymell y dylid cyfaddawdu rhwng y ddau gynnig ar gyfer Parthau Perygl Nitradau, gan roi dull tiriogaeth rannol Parthau Perygl Nitradau dynodedig ar waith ar sail dalgylch. Noda'r Ymddiriedolaeth y dylai'r ardaloedd dynodedig gynnwys y canlynol:

¡  ardaloedd a ddangoswyd iddynt gynnwys dyfroedd sydd wedi'u llygru gan nitradau (ynghyd â tir sy'n amsugno'r dŵr hwnnw); ac

¡  ardaloedd y penderfynwyd ar sail egwyddor rhagofal y gallent gael eu llygru gan nitradau yn y dyfodol. Mae'r Egwyddor Rhagofal yn strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â risgiau a allai godi a chreu difrod annerbyniol sydd, yn ôl gwyddoniaeth, yn bosibl ond heb fod yn sicr o ddigwydd.

Mae sefydliadau eraill yn cymeradwyo'r dull gweithredu arfaethedig Cymru gyfan. Er enghraifft, dywedodd Ffederasiwn Pysgotwyr Caerfyrddin:

Byddai manteision mawr [o ddefnyddio'r dull Cymru gyfan] o ran cydymffurfio â safonau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, sicrhau ecoleg well mewn afonydd gan gynnwys pysgodfeydd, â'r budd economaidd i'r economi wledig a ddaw yn sgil hynny trwy ragor o dwristiaeth a chostau is ar gyfer trin y dŵr a ddefnyddir i'w yfed.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Mawrth 2016, holwyd Carl Sargeant, sef y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, mewn trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ynghylch ymgynghoriad arfaethedig Llywodraeth Cymru. Un o'r cwestiynau a ofynnwyd oedd pa gymorth a gaiff ei gynnig i ffermwyr mewn Parthau Perygl Nitradau o ystyried yr effaith bosibl ar fusnes ffermydd, e.e. y gost ychwanegol o greu rhagor o le i storio slyri. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch swyddogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â safon dŵr o ystyried y toriadau i'r gyllideb. Meddai'r Gweinidog:

Mae gennym lawer gormod o achosion o lygredd gwasgaredig ar draws ein cyrsiau dŵr ac mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef gyda’n gilydd. Mae’r broblem ynglŷn â’r ymgynghoriad yn ymwneud ag a fydd yn barth perygl nitradau lleol neu’n gynllun cenedlaethol, a bydd hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid i’r ymgynghoriad ei ystyried.  O ran cymorth i ganolfannau fferm a ffermydd sydd angen gwneud addasiadau, buaswn yn hapus i gael trafodaethau pellach.  Rwy’n credu y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth nesaf, wrth gwrs, gael trafodaethau pellach gyda’r diwydiant i weld sut y gallant reoli hyn yn well, ond yn y pen draw mater i’r sector fynd i’r afael ag ef yw hwn ac rwy’n credu bod angen i’r Llywodraeth edrych yn ofalus ar sut y gallwn eu symud a’u trosglwyddo i ofod gwell.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.